Gareth Glyn: Henffych Well (Dirion Dir) - unawdwyr, corau, band pres / soloists, choir, brass band

Symudiad olaf cantawd Gareth Glyn am hanes Ynys Môn - 'Dirion Dir' - i unawdwyr, corau a band pres. Sharon Evans (soprano), Iona Stephen Williams (contralto), Aled Hall (tenor), Huw Llewelyn (bariton); Adlais, Aelwyd yr Ynys, Lleisiau Llannerch, Merched y Fro, Côr Bro Dyfnan, Cantorion Bro Cefni, Lleisiau'r Frogwy, Meibion y Foel, Côr y Traeth, Theatr Ieuenctid Môn, Côr Ysgolion Môn; Seindorf Biwmares/Beaumaris Band. Arweinydd: Dr Alwyn Humphreys MBE. Mewn ffrwydrad o sain, mae'r holl gorau yn uno i ateb ac ategu y geiriau ganwyd gan yr unawdwyr - geiriau bythgofiadau Goronwy Owen (1723-1769) -- "Henffych well, Fôn, dirion dir,/Hyfrydwch pob rhyw frodir". Wedi i naws yr emyn yma o foliant gael ei sefydlu, mae'r unawdwyr yn rhoi eu cyfraniad hwy (yn lled-ddigyfeiliant) cyn ymuno â'r corau ar gyfer yr adran olaf. O hyn tan y diwedd mae'r gorfoledd yn cynyddu fwyfwy cyn cloi ar ddeisyfiad mawr Goronwy: "A gwynfyd ym myd fydd Môn". Yma, yn anad unrhyw le arall yn y gantawd, y profwch rym anferthol yr undod o fand pres arobryn a channoedd o gantorion. The closing movement from Gareth Glyn's cantata about the history of Anglesey - 'Dirion Dir' (Gentle Land) - for soloists, choirs and brass band. In an explosion of sound, all the choirs unite to sing the words of the 18th-century poet Goronwy Owen praising Anglesey. It is in this movement that you will experience the astonishing power of hundreds of singers in harmony with one of the UK's top brass bands.