Parti Bechgyn Maes yr Yrfa - Cân y Bugeiliaid

Roedd ffilmio Noson Lawen yn achlysur arbennig i Barti Bechgyn Maes yr Yrfa. Dyma'r tro olaf i'r bechgyn wisgo eu gwisg ysgol am fod ysgolion yr ardal yn uno i greu ysgol newydd sbon gyda Ysgol Maes yr Yrfa yn cau ac Ysgol Maes y Gwendraeth yn agor.