Bro Myrddin yn ymweld a rhif 10 Stryd Downing @yggbm VISIT DOWNING STREET
Bro Myrddin yn ymweld a rhif 10 Stryd Downing ar Ddydd Gwyl Dewi Ysgol Bro Myrddin's Choir visit 10 Downing Street on St David's Day 2012 Anrhydedd mawr a ddaeth i ran y côr hŷn yr wythnos hon gyda gwahoddiad i fod yn rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi rhif 10 Stryd Downing ar y 29ain o Chwefror. Cyrhaeddodd yr un ar hugain o ddisgyblion gyda'i harweinydd Mrs Meinir Richards a dirprwy yr ysgol Dr Llinos Jones tu-allan i Stryd Downing am 4.00 o'r gloch y prynhawn. Ar ôl cael eu tywys i'r tŷ gan yr heddlu croesawyd y criw gan staff y prif weinidog. Tywyswyd pawb i'r ystafell drafod enfawr lle cafodd pawb gyfle i baratoi. Wrth i'r cant a hanner o westeion gyrraedd y derbyniad Cymreig roedd côr yr ysgol yn canu yn y cefndir. Braf oedd cael clywed y côr yn canu 'Finlandia', pedwarawd yn canu 'Alaw Mair' a'r ddeuawd 'Bara Angylion Duw.' Yn dilyn anerchiad pwrpasol gan y prif weinidog, David Cameron, croesawyd y côr unwaith eto i ganu'r gân hynod berthnasol, Eryr Pengwern. Cafwyd cyfle wedyn i gael sgwrs gyda'r prif weinidog a llu o westeion eraill. Braf oedd cael torri gair gydag enwogion megis Ieuan Wyn Jones, Karl Jenkins, Tim Rhys-Evans a llu o aelodau seneddol Cymreig. Uchafbwynt y dydd i'r côr yn sicr oedd cael sgwrs a llun gyda Sam Warburton a Warren Gatland. Cafwyd cyfle hefyd i gael llun answyddogol a sgwrs hir gyda chymeriadau Gavin a Stacey ac Emmerdale. Dilynwyd hyn gan lond côl o 'canapes' blasus a phleser wedyn oedd cael cwrdd gyda'r cogyddion a oedd hefyd o Gymru. Cafodd pawb gyfle wedyn i grwydro'r ystafelloedd a bu llu o bobl yn llongyfarch y disgyblion ar eu perfformiad clodwiw. Yn sicr, fe lwyddwyd drwy'r cyflwyniad i godi proffil y Cymry ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin.

Ensemble Ysgol Bro Myrddin | Gwenllian

Hei Bawb Nadolig Llawen o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin

Mr.Bean Making Celebrities Cry With Laughter NONSTOP!

80 Scariest Tourist Attractions In The World

Genius Invention by a 60-Year-Old Plumber! 7 Free Recycling Ideas from Plastic Mesh & Old PVC Pipes

Cubanischer Gigant PROVOZIERT Tyson In Seiner Prime… Und Bereut Es Sofort

Incredible Street Performers – Caught on Camera

Unbelievable Workers | Working with Talented Engineers. EP17 #construction #adamrose #workers #smart

Black and white abstract screensaver | paintings for Frame TV Smart TV | multiple pictures

Staff Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn canu - Eryr Pengwern - sung by YGGBM staff 25 05 2020

Rowan Atkinson's Brilliant Humor Leaves Celebrities in Tears!

Mix WD40 with Cement and see what billions of people don't know! Clever DIY Tips

Everyone Ignored Him… Until He Played | GUITAR PRO pretended TO BE HOMELESS

YGGBM - Dathlu Dydd Gwyl Dewi 1/3/2018

The World's Funniest and Craziest Videos! Episode 157 | Try Not to Laugh Challenge

Peter Hahne: He’s had enough! | A reckoning with Spahn, Merz, and the un-Christian Union

Make Headlights Like Crystal Clear with Aluminum Foil-This Crazy Trick Actually Works!

Ysgol Bro Teifi | Yma Mae Nghalon

Gwasanaeth Nadolig Rhithiol Bro Myrddin 2020

