Mainc Gyfeillgarwch Plas Ogwen

Mae plant Ysgol Dyffryn Ogwen wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf yn gweithio gyda artist lleol, Elen Williams a Mark Empatage o Veteran's Men's Shed i greu mainc arbennig i gartref Plas Ogwen. Mae preswylwyr Plas Ogwen hefyd wedi cymryd rhan yn y gweithdai celf a pawb wedi mwynhau cyd-weithio. Mae'r fideo hon wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru i ddathlu Wythnos Pontio'r Cenedlaethau, 2022. #Intergenerational #IntergenerationalWeek