Ysgol Heulfan- Sgyrsiau Bob (Isdeitlau Cymraeg)
Ar 7fed Ebrill cynhaliwyd digwyddiad Conversations Bob 2025 ym Mhrifysgol Wrecsam! Yn ystod y digwyddiad clywsom chwe sgwrs ar arddull TEDx gan ysgolion a grwpiau cymunedol ledled gogledd Cymru, y cyfan ar thema Perthyn. Roedd pynciau’r sgyrsiau’n amrywiol: sut mae’n teimlo i berthyn fel rhywun yn ei arddegau yng Nghymru, grym cerddoriaeth i gael ymdeimlad o berthyn, pwysigrwydd cysylltu â chymunedau i ddatblygu ymdeimlad o berthyn, a llawer mwy! Roedd yn ddiwrnod pwerus – cafwyd llawer o sgyrsiau ysbrydoledig ac effeithiol gan yr holl bobl ifanc arbennig a gymerodd ran. Yn ogystal, gofynnwyd i’r rhai a oedd yn y gynulleidfa a thu hwnt i wneud newidiadau i gefnogi mwy o bobl ifanc i gael ymdeimlad o berthyn ledled y rhanbarth, y sir a’r byd. --------------------- Ysgol Heulfan- ‘Perthyn yn Ysgol’ Yn yr araith dwymgalon hon, rydym eisiau amlygu pwysigrwydd meithrin amgylchedd ysgol sy’n creu teimlad o berthyn. Rydym wedi croesawu nifer o wynebau newydd yn Ysgol Heulfan dros y blynyddoedd - plant sydd, i gychwyn, yn teimlo’n nerfus, yn bryderus ac yn swil. Ond gyda breichiau agored a chalonnau ystyrlon, mae cymuned ein hysgol wedi eu croesawu. Drwy garedigrwydd a dealltwriaeth, mae’r plant wedi canfod eu lle, eu hyder wedi tyfu, ac maent wedi dod yn rhan hanfodol o’n teulu ysgol egnïol. Rydym eisiau rhannu y gall pob ysgol wneud gwahaniaeth i newydd dyfodiaid, os yw pob unigolyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi o’r eiliad maent yn camu i mewn i’w hysgol newydd.

Ysgol Gynradd Gymunedol Westwood- Sgyrsiau Bob (Isdeitlau Cymraeg)

Ysgol Heulfan- Bob Talks

Something Happened at the 1 Minute Mark. Nobody Was Ready!

Ysgol Llansansior- Sgyrsiau Bob (Isdeitlau Cymraeg)

NERVOUS 12-Year-Old Who Can Sing Without Opening Her Mouth Earns Mel B's GOLDEN BUZZER!

The Iconic Bass Riff That NOBODY Can Play

Ysgol Bryn Alyn- Bob Talks

1986: How to Spot the Upper Class | That's Life! | BBC Archive

When Animals Surprise Photographers in the Sweetest Way! 😍

Worst Plane Landing Fails Caught on Camera

Golden Retriever Meets Completely Broken Rescue for the First Time

Ysgol St Christopher's- Sgyrsiau Bob (Isdeitlau Cymraeg)

The Most Hilarious Minions Short Films

Ysgol Bryn Alyn- Sgyrsiau Bob (Isdeitlau Cymraeg)

Everyone Ignored Him… Until He Played | GUITAR PRO pretended TO BE HOMELESS

Trump slurring BADLY, STUNS leaders

Westwood Primary School- Bob Talks

St George's School- Bob Talks

Ysgol y Grango Secondary School - Wrexham Wellbeing Festival

