Meinir Gwilym – Gormod

Dyma Meinir Gwilym gyda fersiwn newydd sbon o’r gân boblogaidd Gormod. I ddathlu ugain mlynedd ers rhyddhau ei albwm gyntaf, Smocs, Coffi a Fodca Rhad mae Meinir yn rhyddhau fersiwn newydd sbon o'r albwm, a dyma ei thriniaeth newydd o'r gân Gormod. Cafodd y perfformiad ei ffilmio yn Stiwdio Sain, Llandwrog.