Pedwarawd Hendre Cennin - Un Ydym Ni

Mae'r pedwarawd yn dwyn enw fferm Hendre Cennin, nepell o Fynnydd Cennin gyda'r Lôn Goed gerllaw. Dyma ardal Bryn Engan yng nghanol Eifionydd a chynefin Pedwarawd Hendre Cennin. Mae cystadlu ac eisteddfota yn rhedeg yng ngwaed y teulu a bellach mae'r Pedwarawd wedi ail-ffurfio gan fwynhau'r wefr o berfformio.