Mellt - Gwên Werth Mwy Na Bwled (Yn Fyw o'r Great Escape)

Ymunodd Lŵp a’r bartneriaeth rhwng Cymru Greadigol, Horizons/Gorwelion (BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru) a Chlwb Ifor Bach, ar gyfer ail ddigwyddiad Showcase Cymru yng ngŵyl gerddoriaeth The Great Escape 2024 yn Brighton. Mae Showcase Cymru yn hyrwyddo artistiaid newydd o Gymru ac yn amlygu’r cyfoeth o dalent sy’n parhau i ddod allan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. Cafodd y digwyddiad ei gynnal dros ddau ddiwrnod ar Fai 16 a 17 yn One Church, Brighton, ac yn arddangos saith artist o Gymru gan gynnwys Mellt. Dyma berfformiad byw o Gwên Werth Mwy Na Bwled, oddi ar yr albwm Mae'n Hawdd Pan Ti'n Ifanc. Cyfarwyddo: Owain Jones Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth: Gareth Bull Camera: Sam Stevens & Owain Jones Sain a Chymysgu: Ed Truckell Cynhyrchu: Catrin Morris & Ynyr Morgan Ifan Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga'r botwm 'Subscribe' TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c