Mari Mathias - Annwn
Mae sengl ddiweddaraf Mari Mathias, "Annwn" (sef yr 'arallfyd' ym mytholeg Cymru) yn defnyddio chwedlau, caneuon traddodiadol a melodïau gwerin wreiddiol. Recordiodd y sengl, a’r albwm o’r un enw, gyda Mei Gwynedd o Recordiau JigCal. Roedd hi a’i band gwerin yn arbrofi gyda cherddoriaeth werin a chreu cysylltiad rhwng cerddoriaeth draddodiadol a synau a themâu cyfoes ar yr albwm. Mae Annwn yn ystyried cysylltiad â thirwedd, bywyd ac anifeiliaid gwyllt. Mae’r gân yn cael ysbrydoliaeth o elfennau o fytholeg dywyll, hanes Geltaidd, ac o ‘American Horror Story’. Mae’r dylanwadau rhain i’w canfod yn y fideo hefyd a gafodd ei saethu ym mhentref hudolus Portmeirion. Roedd Annwn yn arallfyd llawn tylwyth teg y bysai Mari yn dianc iddo fel plentyn. Roedd Mari eisiau defnyddio’r gân yma i archwilio themâu hudol yn ogystal ag edrych ar themâu sy’n berthnasol i heddiw. Fel actores ac ysgrifenyddes sgript a wnaeth astudio BA Perfformio yng Nghaerdydd, roedd hi’n awyddus iawn i ddod ag elfennau theatraidd i’r caneuon ac i’r fideos i alluogi’r gynulleidfa i ymgolli’n llwyr yn ei byd hi. Fideo gan Andy Pritchard a Aled Wyn Jones. Celf: Jamie Walker. Cynorthwyo Camera: Sion Gwyn. Gwasga'r botwm 'Subscribe' i gael gwybod am y fideos diweddara! Twitter - @Lwps4c Facebook - @Lwps4c Instagram - @Lwps4c

Mari Mathias - Y Morgen (Green Man Festival | Sessions)

Mari Mathias - Pais Dinogad | CURADUR

Gift in Doubt (live) with Lukas Drinkwater, featuring Kathleen MacInnes

HMS Morris - Balls

Annwn

TSAKHA × PLANNU | SEYIEVINUO CHUZHO & MARI MATHIAS | NAGALAND & WALES | GLOBAL COLLAB | OFFICIAL MV

Tara Bandito - Blerr

Melin Melyn - Nefoedd Yr Adar

Glain Rhys - Sara

Annwn - Eternity

Mari Mathias - Tŷ Bach Twt / Milgi Milgi | Gŵyl Rhyng-Geltaidd Lorient | GWYLIAU '23

Rebel

Adwaith - Nid Aur

Hornbill Festival 2024- Welsh & Naga Folk Music: Mari Mathias & Seyievinuo Chuzho

Heuldro’r Gaeaf (Culhwch ac Olwen)

CALAN - Synnwyr Solomon

Abair Liom Do Rúin - Clare Sands, Steve Cooney & Tommy Sands (Official Video)

Mari Mathias - Cân Y Melinydd | Tŷ Gwerin | Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Live Music | S4C

