Bugeilio'r Gwenith Gwyn
Canwyd gan/ Sung by: Arfon Gwilym Llun gan/ Photograph by: Tom Malavoda Yn seiliedig ar stori enwog Wil Hopcyn a syrthiodd mewn cariad ag aeres lleol, Ann Thomas o Gefn Ydfa, Llangynwyd (Sir Forgannwg). Gwaharddodd ei gwarcheidwad y berthynas a gorfododd Ann i briodi ei fab. Parhaodd Wil ac Ann i anfon llythyrau cudd i’w gilydd, ond pan oedd y rhain yn cael eu darganfod, symudodd Wil i ffwrdd. Gwaethygodd iechyd Ann yn gyflym, a phan ddaeth Wil yn ôl i ymweld â hi am y tro olaf, bu farw yn ei freichiau. Based on the famous story of ‘The Maid of Cefn Ydfa’. Wil Hopcyn fell in love with a local heiress, Ann Thomas of Cefn Ydfa, Llangynwyd (Glamorgan). Her guardian forbade the relationship and forced Ann to marry his son. Wil and Ann continued to send secret letters to each other, but when these were discovered, Wil moved away. Ann’s health quickly deteriorated, and when Wil came back to visit her for the last time, she died in his arms. Ar gyfer mwy o ganeuon a llawer mwy ewch i: https://trac.cymru/cy/caneuon-gwerin-... For more songs and much more visit: https://trac.cymru/en/welsh-folk-song... BUGEILIO'R GWENITH GWYN Mi sydd fachgen ifanc ffôl Yn byw yn ôl fy ffansi, Myfi’n bugeilio’r gwenith gwyn Ac arall yn ei fedi. Pam na ddoi di ar fy ôl Rhyw ddydd yn ôl ei gilydd, Waeth rwy’n dy weld y feinir fach Yn lanach, lanach beunydd. Glannach, glannach wyt bob dydd Neu fi sy â’m ffydd yn ffolach; Er mwyn y Gŵr a wnaeth dy wedd Dod im drugaredd bellach. Cwn dy ben, gwel acw draw, Rho im dy law, wen dirion; Waeth yn dy fynwes bert ei thro Mae allwedd clo fy nghalon. Codais heddiw gyda’r wawr, Gan frysio’n fawr fy lludded, Fel cawn gusanu llun dy droed Fu ‘rhyd y coed yn cerdded; Cwn fy mhen o’r galar maith  serchus iaith gwarineb, Waeth mwy na’r byd i’r mab a’th gâr Yw’r olwg ar dy wyneb. Tra bo dŵr y môr yn hallt, A thra bo ‘ngwallt yn tyfu, A thra bo calon dan fy mron Mi fydda i’n ffyddlon iti; Dywed imi’r gwir heb gêl, A rho dan sêl d’atebion. P’un ai myfi ai arall, Ann, Sydd orau gan dy galon. BUGEILIO'R GWENITH GWYN - Watching the White Wheat I am a young and foolish lad Who lives as I please I watch over the white wheat And another reaps it. Why not follow me Some day or another? Because I see you, dear lass, As fairer and fairer each day. Fairer and fairer are you every day, Or I with my faith more foolish, For the sake of the One who created your face, Be compassionate towards me now. Lift your head, look over there, Give me your dear white hand; Because in your lovely breast Is the key to the lock of my heart! rose today at dawn, Hurrying with great weariness, So that I can kiss your footprints As you walked through the woods; I’ll raise my head from my prolonged grief With the amiable language of civility, Because more than the world to the boy who loves you Is the sight of your face. Whilst the water of the sea is salty, And whilst my hair is growing And whilst there is a heart in my breast I will be faithful to you: Tell me the truth without secrets And give your answers under seal, Which is it – I or another, Ann – Who your heart prefers? Arfon Gwilym, yw un o hoelion wyth ein traddodiad. Mae Arfon, gyda chymorth trac, wedi creu’r casgliad hwn ar gyfer cantorion er mwyn gwneud y caneuon traddodiadol hyn yn hygyrch ar eu ffurf buraf, sef llais digyfeiliant. Arfon Gwilym is one of our major tradition bearers. Arfon, with help from trac, has created this source collection for singers to make these traditional songs available in their purest form: unaccompanied voice.

DNA Reveals the BASQUES Weren’t Who We Thought

Ar Lan y Môr | Diwrnod Gwerin Europeaidd | European Folk Day 2024

Mary Hopkin sings Bugeilio'r Gwenith Gwyn

Bugeilior Gwyneth Gwyn The Treble

My Golden Retriever Heals a Terrified Rescue Kitten in Just 3 Meetings!

The Kindest Royal Guard Moments Ever Recorded ❤️

I'm 80. I Tried Everywhere to Feel Alive Again. Only One Country That Did It

The Basque People Were Never Who We Thought — DNA Changed the Story

Kids Turn “God Only Knows” into a Haunting Hymn | BGT 2026

Why Aliens Would NEVER Invade Africa

Beth yw'r Haf i Mi?

Bugeilio’r Gwenith Gwyn (Watching the White Wheat)

Bugeilio'r Gwenith Gwyn, 2017

Bugeilio'r Gwenith Gwyn

1986: How to Spot the Upper Class | That's Life! | BBC Archive

The Truth About the Black Irish: Ireland’s Hidden DNA

Bugeilio'r Gwyneth Gwyn on Nadolig Aled

When a Cat Teaches a Baby How to Talk… And It Gets Hilarious 😹👶

Bugeilio'r Gwenith Gwyn

