Croeso i Fro Abertawe

Wrth i Gyfundeb Gorllewin Morgannwg wahodd Cyfarfodydd Blynyddol yr Undeb eleni dyma fideo arbennig yn croesawu'r cynadleddwyr i'w bro. Gweinidog Saron, Creunant, Rhys Locke sy'n ein tywys drwy hanes ymneilltuaeth yr ardal gan ymweld â chapeli Godre Rhos a'r Gwrhyd, rhai o achosion cynharaf y rhan yma o Gymru.